Ansicrwydd ariannol y canolfannau hamdden
Mae'n amhosib' parhau i roi cymaint o arian i ganolfannau hamdden Cymru.
Dyna farn Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Roedd Steve Thomas yn siarad ar ôl i ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru ddangos fod llai o arian eisoes yn cael ei wario ar ganolfannau hamdden o'i gymharu â'r llynedd.
Ar gyfer 2011-12 cafodd £74 miliwn ei wario, tua £70 miliwn yw'r ffigwr eleni.
Adroddiad Aled Hughes.