Mesur ieithoedd: Barn cyn-weinidog treftadaeth
Mae 'na wrthdaro pellach rhwng llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Y tro yma ynglŷn â'r ddeddfwriaeth i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Swyddfa Cymru wedi cwestiynu dilysrwydd y ddeddfwriaeth a gafodd ei phasio'r wythnos ddiwethaf - gan ddadlau nad oes gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu dros yr iaith Saesneg.
Fe fydd y Twrne Cyffredinol rŵan yn ystyried eu pryderon.
Nia Thomas fu'n trafod y mater gydag Aelod Cynulliad Plaid Cymru Alun Ffred Jones, cyn0wenidog Treftadaeth Cymru.