Plaid Cymru yn cwyno am daflen isetholiad ar Ynys Môn
Mae Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi gwneud cwyn swyddogol i Gyngor Sir Ynys Môn a Heddlu'r Gogledd am daflen a ddosbarthwyd cyn isetholiad ar gyfer cyngor yr ynys y llynedd.
Honnodd y blaid bod y daflen yn torri Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 am nad yw'n cynnwys enw a chyfeiriad y sawl a'i chyhoeddodd.
'Cynghorwyr annibynnol' oedd yn gyfrifol am y daflen oedd yn honni bod ymgeisydd y Blaid, Vaughan Hughes, wedi camarwain etholwyr.
Mr Hughes enillodd yr isetholiad.
Dyma adroddiad Alun Rhys ar y Post Cyntaf fore Iau.