Parch cwsmeriaid at filfeddyg sydd ar goll
Mae hi'n wythnos bellach ers i filfeddyg o'r Wyddgrug ddiflannu.
Dydd Iau fe wnaeth chwaer Catherine Gowing, sy'n hanu o Weriniaeth Iwerddon yn wreiddiol, apêl emosiynol am wybodaeth.
Mae'r heddlu'n amau fod Ms Gowing wedi ei llofruddio.
Parhau i holi dyn 46 oed o Wynedd y mae'r heddlu ynglŷn â'i diflaniad.
Roedd Ms Gowing yn filfeddyg i nifer o ffermydd yn ardal Yr Wyddgrug.
Merfyn Davies fu draw i un fferm, fferm Dylan Roberts yng Nghilcain.