Cynlluniau ynni gwynt yn achosi rhwyg
Mae perygl bod cynlluniau i godi ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru yn hollti rhai cymunedau yn Sir Drefaldwyn.
Yn ôl amryw sydd o blaid ynni gwynt, mae ymddygiad protestwyr yn fygythiol ar brydiau.
Mae nifer wedi dweud wrth raglen Taro 9 eu bod ofn dangos eu cefnogaeth i'r datblygiadau yn gyhoeddus.
Yn ogystal, mae un cyn swyddog cynllunio yn dweud fod y polisi sefydlodd ardaloedd i adeiladu tyrbinau gwynt wedi ei wthio ymlaen gan Lywodraeth Cymru.
Yn y cyfamser, mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu prosiectau ynni cynaliadwy a bod 'na amodau cynllunio llym ynghlwm wrth unrhyw gais i godi ffermydd gwynt.
Adroddiad Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd.