Cyfnod ansicr i S4C gyda newid yn y dyll ariannu
Mae hi'n ddwy flynedd bellach ers un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes S4C.
Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan newid yn y ffordd y byddai S4C yn cael ei hariannu.
Arwel Ellis Owen oedd Prif Weithredwr dros dro S4C bryd hynny.
Dywedodd fod yna gwestiynau mawr ar y pryd a fyddai yna sianel deledu Gymraeg ar gael yn y dyfodol.
Garry Owen fu'n trafod ei atgofion o'r cyfnod dadleuol yma.