Gwleidydd yn son am gamgymeriadau niweidiol rhai o reolwyr S4C
Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae rhai o reolwyr S4C wedi cuddio y tu ôl i strategaethau gan wneud camgymeriadau niweidiol.
Dyna farn un cyn-gynhyrchydd sydd bellach yn Aelod Cynulliad.
Yn ôl Alun Ffred Jones, Aelod Plaid Cymru Arfon, mi golllodd y sianel olwg o'i phrif flaenoriaeth - sef cynhyrchu rhaglenni poblogaidd i bobl.
Mae Aled Hughes wedi bod yn siarad gyda'r gwleidydd ar ôl cael barn pobl Caernarfon i gynnwys rhaglenni'r sianel.