Dwy Americanes yn trafod yr etholiad Arlywyddol
Llai nag wythnos i fynd tan etholiad Arlywyddol America ac mae hi'n ras hynod o agos eleni rhwng Yr Arlywydd Barack Obama a'r Gweriniaethwr Mitt Romney.
Bellach mae'r Arlywydd yn ôl yn ymgyrchu ar ôl y stormydd mawr a darodd arfordir dwyreiniol America.
Yn ôl hefyd y mae ei wrthwynebydd.
Dydd Mawrth ydi'r diwrnod pryd y bydd y pleidleisio yn digwydd.
Aled Huw fu'n trafod yr ymgyrchu hyd yma yng nghwmni dwy wraig sydd â phleidlais yn yr etholiad.