'Gwastraffu' organau wrth newid deddf?
Mae economegydd iechyd amlwg wedi rhybuddio y gallai ysbytai Cymru fod o dan ormod o bwysau, pe bai cynllun Llywodraeth Cymru i newid y drefn o roi organnau yn dod i rym.
O dan y drefn honno, bydd pobl yn gorfod cofrestru i beidio â rhoi eu horgannau ar ôl marw, yn lle'r drefn bresennol o gofrestru er mwyn eu rhoi nhw.
Ond mae'r Athro Ceri Phillips wedi dweud wrth BBC Cymru y gallai cynydd yn nifer y llawdriniaeth roi pwysau mawr ar unedau gofal dwys.
Adroddiad Alun Thomas.