Y dathlu yn America wrth i Barack Obama ennill yr etholiad
Yn Chicago bu Barack Obama yn annerch ei gefnogwyr. Mae o wedi sicrhau buddugoliaeth yn yr etholiad ac yn Arlywydd America am bedair blynedd arall.
Er gwaetha' problemau'r economi ac ymgyrch gref gan yr ymgeisydd Gweriniaethol Mitt Romney, llwyddodd yr Arlywydd i ennill cyfres o daleithiau ymylol holl bwysig.
Daeth y cyhoeddiad yn gynt na'r disgwyl a'r fuddugoliaeth yn fwy cyfforddus nac yr oedd nifer wedi ei broffwydo.
Byrdwn neges yr Arlywydd oedd bod y gorau eto i ddod.
Adroddiad Dyfan Tudur.