Angen hwb ar bêl-droed lleol
Bydd yn anodd i Uwchgynghrair Pêl-Droed Cymru ddatblygu heb well cydweithredu rhwng y clybiau, cymunedau a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dyna mae grwp o aelodau'r Cynulliad yn ei ddweud mewn adroddiad.
Y pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol fu'n ymchwilio ac maen nhw'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru a'r Gymdeithas gydweithio er mwyn i glybiau ddatblygu'n ganolbwynt i'w cymunedau lleol.
Mae Rhodri Glyn Thomas yn un o aelodau'r pwyllgor.
Bu Alun Thomas yn ei holi.