Ymateb i adolygiad addysg
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg nad oes digon o ymgynghori wedi bod ar gynlluniau i adolygu trefn addysg yng Nghymru.
Roedd Simon Thomas yn ymateb i gyhoeddiad Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, y bydd yn cynnal adolygiad o'r drefn.
Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Mr Thomas bod angen newid er mwyn codi safonau.
Ond roedd yn amau bod y gweinidog yn gweithredu yn rhy frysiog am ei fod wedi colli amynedd.
Nia Thomas fu'n ei holi.