Siaradwyr ysbrydoledig yn 'hwb i ddisgyblion'
Rhoi cyfle i ddisgyblion gael eu hysbrydoli gan siaradwyr o sawl maes ydi bwriad elusen Siaradwyr i Ysgolion.
Eisoes mae'n bodoli yn Lloegr a bellach mae'n cychwyn yng Nghymru.
Rhodri Llywelyn fu'n trafod y syniad ag un o'r cannoedd o siaradwyr yng Nghymru, Simon Thirsk, awdur a chadeirydd cwmni cyhoeddi llyfrau.