Yr Eisteddfod yn ymchwilio i dwyll tocynnau mynediad
Ydych chi erioed wedi derbyn tocyn am ddim gan rywun er mwyn cael mynediad i'r Eisteddfod Genedlaethol?
Wel mae Prif Weithredwr y Brifwyl yn siomedig bod pobl sy'n ystyried eu hunain yn "gefnogol" i'r Eisteddfod yn twyllo drwy beidio talu am docynnau i'r Maes a chyngherddau.
Yn ôl Elfed Roberts, bydd mynd i'r afael a hynny'n golygu costau ychwanegol.
Adroddiad Alun Rhys.