Pwerdy: Amheuon am system oeri
Mi allai perchnogion Pwerdy Nwy Penfro gael eu gorfodi i newid y system o oeri dŵr, oherwydd ofnau am effeithiau'r dechnoleg ar ardal gadwraeth.
Mae BBC Cymru'n deall fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi anfon llythyr at Lywodraeth Prydain yn rhestru troseddau honedig sy'n mynd yn groes i bedair deddf Ewropeaidd.
Mae perchnogion y pwerdy, RWE, yn mynnu bod eu prosesau wedi bod yn rhai trylwyr.
Gareth Glyn gafodd glywed mwy gan Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru.