Codi'r gwaharddiad ar ffracio
Mae'r gwaharddiad ar ddefnyddio'r broses ddadleuol 'ffracio' i dyllu am nwy siâl wedi cael ei godi.
Deunaw mis mi ddaeth tyllu o'r fath i ben oherwydd pryderon bod 'ffracio' wedi achosi dau ddaeargryn bychan yn Sir Gaerhirfryn.
Ond mae Llywodraeth Prydain yn hapus rŵan bod mesurau newydd yn debyg o leihau tirgryniadau.
Adroddiad Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru Iolo ap Dafydd.