Miloedd yn methu talu dyledion

Mae 'na gyfnod costus ar ein gwarthau, a'r Nadolig hwn yr awgrym yw bod y nifer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu am fenthyciadau llog uchel wedi dyblu.

Yn ôl elusen 'Step Change', mae bron i 30,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn methu talu dyledion ar ôl menthyg arian tan y diwrnod tâl nesa'.

Mewn rhai achosion mae llog o 1,000% yn cael ei godi, gyda chosbau arianol hefyd am fethu ad-dalu ar amser.

Y manylion gan Jennifer Jones.