Mwy o ddwyrain Ewrop yn symud i Gymru

Yn ystod yr wythnos fe ddaeth hi'n amlwg bod nifer siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf.

Ond wrth i'r drafodaeth ynglŷn â dyfodol yr iaith barhau, mae canlyniadau'r Cyfrifiad yn dangos bod degau o filoedd o bobl wedi symud i mewn i Gymru o ddwyrain Ewrop.

Ac fel y gall Telor Iwan egluro, mae'r mwyafrif helaeth yn hanu o Wlad Pwyl.