Cynllun dadleuol yn Aberdaron cael sêl bendith cynghorwyr
Mae cynllun dadleuol gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi canolfan i ymwelwyr ym mhen draw Pen Llŷn wedi cael sêl bendith cynghorwyr Gwynedd.
Mae'r datblygiad yn Aberdaron wedi cael cefnogaeth amryw o fusnesau'r pentref.
Ond fe fyddai'r adeilad yn rhy fawr o lawer yn ôl rhai trigolion lleol.
Adroddiad Sion Tecwyn.