Cae artiffisial i Stadiwm y Mileniwm?
Mae 'na awgrym y bydd Undeb Rygbi Cymru yn torri tir newydd yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae'n syniad sy'n cael ei ystyried o ddifrif yn ôl Prif Weithredwr yr Undeb Roger Lewis.
Dros y misoedd diwethaf, mae swyddogion wedi bod yn ystyried gosod cae artiffisial yn Stadiwm y Mileniwm, hynny yn sgil yr holl broblemau sydd wedi codi ynglyn â safon y cae dros y 11 mlynedd diwethaf.
Fe fydd yna drafodaethau ac ymchwiliadau pellach serch hynny cyn i'r undeb ddod i unrhyw benderfyniad terfynol.
Adroddiad Iwan Griffiths.