Cynghorwyr yn gwrthod cais am dai oherwydd effaith ar y Gymraeg
Cafodd cynlluniau i godi 336 o dai ar dir ger Rhydaman eu gwrthod gan gynghorwyr Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y cais ym Mhenybanc ei wrthod yn rhannol oherwydd yr effaith fyddai'r datblygiad yn ei chael ar yr iaith Gymraeg.
Roedd swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi argymell bod y cais yn cael ei dderbyn.
Ond roedd aelodau o bwyllgor cynllunio'r sir yn poeni am effaith niweidiol ar y Gymraeg.
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn nodi gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl yn sir sy'n medru'r Gymraeg.