Llywodraeth am brynu maes awyr
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn bwriadu prynu Maes Awyr Caerdydd.
Dywedodd y Prif Weinidog fod 'na gytundeb cychwynnol wedi ei lunio gyda'r perchnogion, TBI.
Ond mi fydd angen cwblhau'r manylion.
Bwriad y Llywodraeth ydy buddsoddi yn y maes awyr.
Ond mae'r Ceidwadwyr eisoes yn holi a ydi hwn yn gam doeth.
Adroddiad Ellis Roberts.