Cefnogwyr newydd i Lanfairpwll
Mae diddordeb mawr mewn tîm pêl-droed ar Ynys Môn o gornel annisgwyl iawn - Brasil.
Dechreuodd y diddordeb ar deledu'r wlad pan sylwodd rhaglen boblogaidd 'Futbol Nun Mundo' mai clwb Llanfairpwll oedd â'r enw hiraf yn y byd ar y tîm.
Bellach mae gwefan y clwb o Fôn yn cynnwys adroddiadau yn yr iaith Portiwgëeg ar gyfer eu cyfeillion newydd o Dde America.
Dyma adroddiad Dafidd Gwynn.