Sut hwyl ar y prynu a'r gwerthu?
Wrth i berchnogion siopau baratoi ar gyfer un o benwythnosau prysura'r flwyddyn, mae'r ffigyrau diweddara yn awgrymu bod gwerthiant ar y stryd fawr cyn y Nadolig wedi bod yn araf hyd yma. Ac mae arolygon eraill yn dod i'r casgliad bod traean o bobl Cymru yn debygol o wario llai ar ddathliadau ac anrhegion eleni. Mi aeth Rhodri Llywelyn draw i Aberhonddu i weld sut hwyl sydd ar y prynu a'r gwerthu yno.