Edrych ymlaen at newidiadau i fyd iechyd yn 2013
Mae 'na benderfyniadau mawr i ddod ym myd iechyd yn y flwyddyn newydd.
Bu Owain Clarke yn trafod hynny gyda thri sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Y tri yw John Jenkins, llefarydd ar ran y BMA, yr economegydd iechyd Ceri Phillips ond yn gynta' Cyfarwyddwr Byrddau Iechyd Cymunedol Cymru, Carol Davies.
Un o'r pynciau fydd yn siŵr o gael sylw yw'r diweddara' o safbwynt ad-drefnu gwasanaethau iechyd.