'Angen mynd lle mae'r gwaith'

Menna Baines oedd golygydd gwadd Post Cyntaf fore Llun, Rhagfyr 31.

Un o'r pynciau trafod a godwyd oedd ei bod yn poeni bod angen sêl bendith y diwylliant Seisnig i'r Cymry lwyddo.

Dydi'r Cymry ddim yn barod i ymfalchïo yn llwyddiant y rhai sydd wedi aros yma tra bod y rhai sydd wedi mynd dros Glawdd Offa ac i America yn cael eu dyrchafu.

Gwenllïan Grigg fu'n holi'r newyddiadurwr Huw Edwards am ei brofiadau o weithio yng Nghymru ac yn Llundain.

Mae o'n credu bod angen mynd lle bynnag mae'r gwaith.