Barn am newid posib i'r Eisteddfod
Ar raglen y Post Cynta' fore Llun, y llenor a'r golygydd Menna Baines oedd y golygydd gwadd.
Fe gododd gwestiynau am y drafodaeth ynglŷn â moderneiddio'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ystod y Brifwyl ym Mro Morgannwg eleni fe wnaeth y Gweinidog Addysg, sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, gyhoeddi cynnal arolwg o'r Eisteddfod.
Mae Mr Andrews am weld a ellir ehangu ei hapêl.
Alun Rhys fu'n casglu barn dau unigolyn, sydd â diddordeb yn yr Eisteddfod, am y penderfyniad.