Llanelli am adael y cyngor sir?
Gadael Sir Gâr.
Dyna yn ôl nifer o gynghorwyr Llanelli ydi'r ffordd ymlaen os am gael chwarae teg i Dre'r Sosban.
Mae nifer o drigolion y dre'n beio'r cyngor sir am ddifetha canol Llanelli.
Maen nhw'n honni bod y cynllun i is-raddio gwasanaethau yn yr ysbyty lleol wedi gwneud pethau'n waeth.
Gwrthod hynny'n llwyr mae'r cyngor sir.
Adroddiad Owain Evans.