Arian i deuluoedd wedi llifogydd Ceredigion
Bydd Cyngor Ceredigion yn rhannu miloedd o bunnau yn ychwanegol rhwng teuluoedd gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn y sir ym mis Mehefin.
Mae dros £100,000 eisoes wedi'u dosbarthu.
Mae tua £15,000 ar ôl yn y coffrau ar ôl y llifogydd gwaethaf yn yr ardal ers cyn cof.
Adroddiad Craig Duggan.