Dathlu llwyddiant economaidd yr Elyrch
Mae'n ymddangos nad eu cefnogwyr yn unig sy'n dathlu dyrchafiad tîm pêl-droed Abertawe i'r Uwch Gynghrair.
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd mi oedd tymor cynta'r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair werth £58 miliwn i'r economi leol.
Cafodd 125 o swyddi eu creu neu'u diogelu gan y clwb ei hun.
Cafodd bron i 300 o swyddi eraill yn dod wrth i dafarnau, bwytai a gwestai ddenu rhagor o gwsmeriaid.
Adroddiad Ellis Roberts.