Apêl i gynnal rheilffordd Talyllyn
Mae rheolwyr Rheilffordd Talyllyn yng Ngwynedd yn apelio am ragor o gymorth ariannol gan wirfoddolwyr.
Mae'n un o'r rheilffyrdd stêm hynaf yng Nghymru.
Bu'n ysbrydoliaeth i neb llai na'r Parchedig W. Awdry - awdur llyfrau plant Tomos y Tanc.
Ond efo niferoedd teithwyr wedi gostwng mae apêl ar i wirfoddolwyr estyn i'w pocedi yn dechrau codi stêm.
Adroddiad Dafydd Gwynn.