Pennod newydd i Dŷ a Gerddi Dyffryn

Mae un o safleoedd treftadaeth amlyca'r de yn dechrau ar bennod newydd yn ei hanes.

O hyn ymlaen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fydd yn rheoli Tŷ a Gerddi Dyffryn, ar ôl arwyddo cytundeb 50 mlynedd efo'r perchnogion, Cyngor Bro Morgannwg.

Am y tro cyntaf erioed, mi fydd ymwelwyr yn cael mynd i mewn i'r plasty ei hun yn ogystal â'r gerddi.

Adroddiad Luned Gwyn.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd