Canolfan gelfyddydol newydd yn Llanelli
Ar ôl buddsoddiad o dros £15 miliwn mae canolfan gelfyddydol y Ffwrnes wedi agor yn Llanelli.
Y perfformiad cyntaf yn y theatr, sy'n dal dros 500 o bobl, ydi'r pantomeim Aladdin.
Yn ogystal â denu artistiaid mawr, mi fydd y Ffwrnes hefyd yn gobeithio meithrin doniau lleol.
Adroddiad Aled Scourfield.