Feirws anadlu'n taro babanod

Mae ymgynghorydd plant blaenllaw yng Nghymru yn rhybuddio bod feirws sy'n taro system anadlu babanod yn rhoi'r gwasanaeth iechyd dan straen.

Mae 700 o blant bach yn cael eu taro â bronchiolitis bob gaeaf.

Ond yn ôl y meddyg Iolo Doull, roedd cyfnod y Nadolig eleni'n hynod brysur a bu'n rhaid symud plant ar draws Prydain oherwydd prinder gwlau gofal dwys.