Cau chweched dosbarth mewn ysgol?
Bydd cabinet cyngor sir Powys yn trafod argymhelliad i gau chweched dosbarth un o ysgolion uwchradd y sir ddydd Mawrth.
Dim ond wyth disgybl sydd ym mlwyddyn 12 ysgol John Beddoes yn Llanandras, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Ond mae gwrthwynebiad i'r cynllun yn lleol, gyda rhai yn dadlau y gallai colli'r chweched dosbarth yn gyfangwbl arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion sy'n mynd i Loegr i gael eu haddysg.
Cemlyn Davies fu'n esbonio mwy wrth Nia Thomas ar raglen y Post Cynta'.