Pryder am y cwymp mewn pris ŵyn
Mae undeb NFU Cymru yn dweud eu bod yn bryderus ynglŷn â'r cwymp mewn prisiau ŵyn.
Mae pris oen rhyw £20 - £30 yn is na'r un adeg y llynedd.
Mae'r tywydd gwlyb a chryfder y bunt wedi cael effaith ar ffermwyr.
Mae'r undeb wedi galw ar lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r diwydiant ar adeg pan mae costau cynhyrchu yn cynyddu.
Adroddiad Aled Scourfield.