Diogelu wedi tirlithriad
Bydd swyddogion o gyngor Castell Nedd Port Talbot yn cwrdd ddydd Gwener i drafod y diweddara' am y tirlithriad yn Ystalyfera.
Bu'n rhaid i bobol adael eu cartrefi ddyddiau cyn y Nadolig.
Mae pobol wedi creu cymdeithas arbennig er mwyn rhoi pwysau ar y cyngor i wneud gwaith i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Bu Rebecca Hayes yng nghyfarfod cyntaf y gymdeithas nos Iau.