Iechyd: Y farn yn Sir Gâr a Sir Benfro
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y camau nesaf yn y broses o ad-drefnu ysbytai a gwasanaethau iechyd yr ardal.
Mae rhai o'r opsiynau'n ddadleuol tu hwnt - israddio uned ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli; cael gwared ar yr uned arbenigol i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd a chau nifer o ysbytai cymunedol, yn ogystal â chanoli gwasanaethau.
Mae cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau wedi para 12 wythnos.
Cyn y cyfarfod, bu Aled Scourfield yn holi barn rhai o bobl Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin am y cynigion.