Ceredigion: Y farn am ad-drefnu iechyd
Mae pryderon wedi codi yn ardal Aberystwyth a'r canolbarth, wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ystyried newidiadau i'r gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais yn y dre' fel rhan o ad-drefnu drwy'r rhanbarth.
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus i leisio pryder ynglŷn â gwasanaethau yno.
Erbyn hyn mae'n ymddangos na fydd ofnau gwaethaf yr ymgyrchwyr yn cael eu gwireddu.
Ond, fel y clywodd Craig Duggan, dyw'r ymgyrch ddim ar ben.