Bygythiad i swyddi staff Amgueddfa Cymru
Mae 'na ddyfalu mai Amgueddfa Cymru ydi'r diweddara' i ystyried diswyddo staff er mwyn arbed arian.
Mae gan yr amgueddfa saith safle i gyd - o'r Amgueddfa Genedlaethol ac amgueddfa werin Sain Ffagan yn y brifddinas i Amgueddfa Lechi Llanberis yn y gogledd.
Mi fydd staff yn cael clywed mwy ddechrau'r wythnos nesa.
Adroddiad Ellis Roberts.