BBC Cymru Fyw

Rhybudd coch am eira

Nid ar chwarae bach mae'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd coch am eira.

Ond dyna sydd ganddon ni ar gyfer rhannau helaeth o'r de ddydd Gwener.

Mae disgwyl eira i'r rhan fwya' o Gymru.

Yn ogystal â'r eira, mae hefyd disgwyl gwyntoedd cryfion o'r de orllewin ac mi alla hynny achosi lluwchfeydd.

Y rhybudd felly ydi i bobl beidio â theithio ddydd Gwener oni bai bod wir raid iddyn nhw.

Adroddiad Jennifer Jones.