BBC Cymru Fyw

Estyniad arloesol yng Nghoed-y-Brenin

Mae paneli coed wedi dechrau cael eu gosod fel rhan o gynllun arloesol i adeiladu estyniad i Ganolfan Ymwelwyr Coed-y-Brenin ger Dolgellau.

Am y tro cyntaf erioed yng Nghymru mae dull o adeiladu'n cael ei ddefnyddio a gafodd ei ddatblygu yn Yr Almaen ac Awstria.

Adroddiad Dafydd Gwynn.