BBC Cymru Fyw

'Llwyth o ddewis' ar gyfer gwobrau

Am y tro cyntaf nos Sadwrn yng Nghaerdydd cynhelir Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru.

Nod y gwobrau dwyieithog yw clodfori talent byd opera, dawns a drama.

Mae cynhyrchiad Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru - Llwyth - wedi ei enwebu mewn naw categori.

Un o'r beirniaid ifanc ydi Elin Williams.