Sinema symudol yn nhre'r Cofis
O'r sinema draddodiadol a chanolfannau aml-sgrin, i ddangosiadau awyr agored a'r gynulleidfa'n gwylio o'u ceir - mae sawl ffordd o wylio ffilm mewn cwmni.
Ond a ydych chi erioed wedi gweld sgrîn fawr deithiol, sydd angen ei phwmpio ag aer?
Dyna'n union y mae criw o bobl ifanc newydd ei phrynu i'w llogi ar gyfer digwyddiadau mawr a bach yn ardal Caernarfon.
Mae aelodau'r fenter wedi elwa o gefnogaeth Gisda, yr elusen sy'n helpu pobol ifanc digartref Gwynedd.
Mwy gan Rhian Price.