Cyfreithiwr o Gymru a'r ymchwiliad 'brawychus'
Cyfreithiwr o Gaerdydd oedd yn arwain tîm cyfreithiol ymchwiliad i fethiannau yn Ysbyty Stafford, ble bu farw cannoedd o gleifion yn ddiangen.
Mae'r adroddiad wedi dod i'r casgliad fod angen newid agweddau tuag at safonnau o fewn y gwasanaeth iechyd a gwneud y system yn fwy tryloyw.
Ar raglen y Post Prynhawn ddydd Mercher, bu Peter Watkin Jones yn sôn wrth Dewi Llwyd am natur frawychus yr hyn glywodd yr ymchwiliad.