Ymateb i'r sgandal cig ceffyl
Mae'r Undeb Ewropeaidd yn galw am gynnal profion DNA ar gynnyrch cig eidion o ddechrau mis Mawrth.
Daw'r alwad wrth i ymchwiliad barhau i honiadau bod ffatri gig yng Ngheredigion ynghlwm â'r helynt.
Mae'r Athro Wynne Jones yn gadeirydd y Bwrdd Strategol 'Cyswllt Ffermio', corff sy'n rhoi cymorth i ffermwyr yng Nghymru a bu hefyd yn brifathro Coleg Amaethyddol Harper Adams yn Sir Amwythig tan 2009.
Bu'n trafod goblygiadau'r helynt cig ar y diwydiant yng Nghymru a thu hwnt gyda Kate Crockett ar y Post Cynta fore Iau.
Mae perchennog cwmni Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.