Mesurau arbennig i ddau gyngor arall
Mae 'na bum adran addysg yng Nghymru'n wynebu mesurau arbennig erbyn hyn.
Ar ôl Ynys Môn, Blaenau Gwent a Sir Benfro y cynghorau diweddara' i gael eu targedu gan y corff safonau addysg Estyn ydi Merthyr Tudful a Mynwy.
Yn ôl Estyn mae'r ddarpariaeth addysg yn y siroedd hynny yn annerbyniol.
Mae'r gweinidog addysg rŵan yn ystyried sefydlu timau arbennig i geisio codi safonau.
Adroddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Arwyn Jones