Llyfrgell orau'r byd yn Yr Wyddgrug?
Be ydi'ch barn chi am eich llyfrgell leol?
Wel, mae un o lyfrgelloedd y gogledd ddwyrain wedi creu argraff fawr ar o leia' un person sy bellach - mae'n debyg - yn byw ar ben arall y byd.
Fe dderbyniodd Llyfrgell Yr Wyddgrug gerdyn post o Awstralia ar Ddydd San Ffolant.
Mae'r neges yn syml, 'llyfrgell ora'r byd'.
Ond - yng ngwir draddodiad Sant Ffolant - dyda ni ddim yn gwybod gan bwy mae'r cerdyn.
Adroddiad Rhian Price.