Pryder cynghorwyr
Mae nifer o gynghorwyr yn Llyn ac Eifionydd yn anhapus ynglŷn â'r ffordd mae Cyngor Gwynedd yn mynd ati i osod cytundebau newydd ar gyfer cludo plant i ysgolion.
Mae'r cyngor wedi gwahodd ceisiadau gan gwmnïau bysus i redeg gwasanaethau o fis Ebrill.
Ond mae cynghorwyr yn poeni y bydd y drefn newydd yn golygu y bydd disgwyl i rai plant gerdded ar hyd lonydd cul, gan eu bod yn byw yn rhy agos i'r ysgol i gael cludiant am ddim.
Ac oherwydd y cytundebau newydd mae'n bosib na fydd 'na le iddyn nhw ar y bysus.
Fe wnaeth y cynghorwyr gynnal cyfarfod brys gyda swyddogion Gwynedd er mwyn mynegi eu pryder.
Adroddiad Alun Rhys.
- Cyhoeddwyd
- 4 Mawrth 2013
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Gogledd-Orllewin