Protest i gofio am Fukushima
Cafodd protest ei chynnal ger Pont Menai gan fudiad PAWB, Pobl Atal Wylfa B, ddydd Llun i nodi dwy flynedd ers tswnami a daeargryn yn Japan, a effeithiodd ar dros 18,000 o bobl.
Mae'r mudiad yn gwrthwynebu codi ail atomfa ar safle Wylfa ar Ynys Môn.
Achosodd y drychineb yn Japan ddifrod difrifol i atomfa niwclear Fukushima wrth i ymbelydredd lifo ohoni.
Bu Aled Hughes yn holi Dylan Morgan o fudiad PAWB ynglŷn â phwrpas y brotest.